Diwrnod Cenedlaethol Ymwybyddiaeth Straen – Arolwg Staff

Nov 4, 2020

Mae TGP Cymru yn cydnabod pwysigrwydd cefnogi lles meddyliol ei weithiwr, yn enwedig mewn perthynas â straen ac unigedd yn ystod yr amser presennol. Felly, i gydnabod Diwrnod Cenedlaethol Ymwybyddiaeth Straen, mae arolwg llesiant yn cael ei anfon at yr holl staff, er mwyn sicrhau dealltwriaeth barhaus o les meddyliol gweithwyr a pha fesurau ychwanegol y gellir eu cymryd i gefnogi pobl yn eu sefyllfaoedd gwaith cyfredol.

Rydym hefyd wedi bachu ar y cyfle hwn i atgoffa staff o raglen cymorth gweithwyr ac adnoddau e-ddysgu’r sefydliad i helpu i leihau lefelau straen gyda gweithgareddau fel ymwybyddiaeth ofalgar ac ioga.