“Rhowch Eich Hun Yn Ein Hesgidiau”

Oct 25, 2021

Mae pobl ifanc Rhaglen Ffoaduriaid a Lloches TGP Cymru wedi cynhyrchu fideo o’r enw “Rhowch Eich Hun Yn Ein Hesgidiau” yn gofyn i bobl weld y byd o’u safbwynt nhw wrth iddyn nhw wynebu dieithrwch cymdeithasol a rhwystrau systemig, gyda’r nod y bydd adrodd eu straeon yn golygu y bydd gan bobl yng Nghymru fwy o gydymdeimlad tuag at eraill fel nhw.

Mae’r fideo’n archwilio pynciau fel anhawster wrth lywio’r broses noddfa, gwahaniaethu ar sail hil mewn addysg, a gwahaniaethau diwylliannol sy’n dylanwadu ar sut yr ydym yn siarad ac yn gwisgo. Mae’r bobl ifanc yn gobeithio, wrth esbonio eu profiadau y bydd pobl eraill yn cael gwell dealltwriaeth ohonyn nhw, dealltwriaeth a fydd yn lleihau’r tebygolrwydd y byddan nhw’n wynebu caledi yn y dyfodol. Neges y fideo yn y pen draw yw y dylid deall, parchu a dathlu amrywiaeth.

Daw’r neges hon yn fyw gan y tîm talentog yn ProMo-Cymru, ac fe’i gwnaed yn bosibl drwy wobr gan Ymddiriedolaeth Cod Post y Bobl, elusen sy’n rhoi grantiau a ariennir gan chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl.