Mae Bwrdd Diogelu Iau Ceredigion wedi cynhyrchu cerdd yn mynegi eu teimladau am y Coronafirws. Lluniodd y grŵp eiriau i ddisgrifio’r sefyllfa bresennol a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cadw’n ddiogel yn ystod cyfyngiadau symud. Maent hefyd yn awyddus i wneud i bobl chwerthin a gwenu ar yr adeg anodd hon, felly disgwyliwch weld rhai geiriau ar hap hefyd!!!
Hoffai’r Sêr Diogel ddiolch yn arbennig i Mark Jeffries a’u cefnogodd i gynhyrchu’r gerdd. Mae Mark hefyd yn garedig iawn wedi darllen y geiriau i ni hefyd. Diolch Mark J
Gobeithiwn y gwnewch fwynhau’r gerdd! Arhoswch yn Ddiogel a ddaru rywun sôn am Lamas?!?