Teithio Ymlaen

Jun 3, 2020

Cynhaliodd Gwasanaeth Teithio Ymlaen TGP Cymru gystadleuaeth dros wyliau’r Pasg. Mae feirws Covid 19 wedi gorfodi cyfyngiadau symud ar bob un ohonom, ond roeddem ni’n dal i fod eisiau cadw mewn cysylltiad â phawb o’r gymuned. Roeddem ni’n gwybod na fyddai’n cynnwys pawb ond penderfynom ni greu grŵp Facebook i gadw mewn cysylltiad a sicrhau y byddai gwybodaeth yn cyrraedd cymaint o bobl â phosibl.

Roedd llawer o ddeunydd negyddol yn cael ei gyhoeddi ar y dudalen, felly penderfynom ni gynnal cystadleuaeth lluniau plant, gan ofyn i’r plant beth sy’n eu gwneud nhw’n hapus. 

Cawsom ymateb hyfryd a chymerodd tua deg o blant ran yn y cystadlaethau. Enillodd yr holl fuddugwyr wobr a dangoswyd eu lluniau ar y dudalen. Roedd yn hyfryd cynnwys y plant a gweld yr hyn sy’n eu gwneud nhw’n hapus.