Wythnos Diogelu

Nov 15, 2018

I ddathlu Wythnos diogelu, mae gani TGP Cymru ddau ddigwyddiad yn digwydd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.

Bydd y ffotograffau isod yn cael eu harddangos yn Neuadd y Sir, Y Gwalia, Ithon Rd, Llandrindod, Powys LD16AA gyda’r daflen amgaeedig i esbonio natur y ffotograffau wedi’u fframio. Byddant yno o 12-16 Tachwedd.

Ddydd Iau 15 Tachwedd bydd sesiwn galw heibio yn cael ei chynnal yn Ehangu Cyfranogiad, Prifysgol Aberystwyth, Canolfan Cwrt Mawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3AN o 3.30-6.00pm – mae croeso i bawb. Bydd y ffotograffau wedi’u fframio yn cael eu harddangos.

Bydd y rap diogelu yn cael ei chwarae a bydd gweithdy tlodi cyfnod i fynd i’r afael â’r mater yn ymwneud â phobl ifanc  yn manteisio ar gynhyrchion. Bydd nyrsys ysgol Ceredigion yn bresennol a hwylusir y gweithdy gan Rush, gan wneud cydau unigol i roi eu cynnyrch ynddynt. Bydd Aber food surplus hefyd yn bresennol i ddarparu lluniaeth. Mae Sêr Saff/ Safe Stars wedi gweithio ochr yn ochr â Nyrsys Ysgol Ceredigion ac Aber Food surplus drwy gydol y flwyddyn.