Amser Holi Sêr Diogel yn erbyn y Gweithwyr Proffesiynol #TGPQT Wythnos 7

Jul 7, 2020

Mae Bwrdd Diogelu Iau Ceredigion, y Sêr Diogel, yn parhau i ofyn cwestiynau i nifer o weithwyr proffesiynol, sydd â’u rôl i ddiogelu plant a phobl ifanc ledled Cymru. 

Mae’r Sêr Diogel ar wythnos 7 o’r ‘Her amser Holi’ ac fe wnaethant gyfarfod â Mari Jefferis, Rheolwr Tîm Eiriolaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru, TGP Cymru. Mae Mari yn rheoli tîm o eiriolwyr sy’n cadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ledled Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae Mari hefyd wedi bod yn gysylltiedig â chefnogi Sêr Diogel Ceredigion ar nifer o brosiectau felly roedd yn rhaid i ni ei chael hi’n ôl! Diolch Mari am eich holl gymorth ac am gytuno i ymgymryd â’r her #TGPQT ☺

Edrychwch ar atebion Mari i’r her ‘Amser Holi’ yma. Gobeithio y cewch chi gymaint o hwyl ag y cawsom ni, ac yna beth am ymgymryd â’r her #TGPQT eich hun. ☺ 

Bwrdd Diogelu Iau Ceredigion