Gwasanaeth Cyn-filwyr a Theuluoedd
Sut allwn ni helpu?
Mae ein hymyriadau cyfannol, teulu cyfan wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion penodol eich teulu.
Mae profiad yn y fyddin yn parhau i gael effaith ymhell ar ôl gadael y gwasanaeth, a gall hyn weithiau ddod ag anawsterau annisgwyl i Gyn-filwyr ac aelodau eu teulu, gan achosi iddynt deimlo wedi’u llethu ac yn ynysig.
Ein nod yw cerdded ochr yn ochr â chi, rhoi lle i chi siarad, edrych am ffyrdd o weithio trwy’r pethau anodd a gweithio gyda chi i gynnal sefydlogrwydd eich perthnasoedd teuluol er mwyn gallu symud ymlaen – yn unigol a gyda’ch gilydd.
Yr hyn sydd gennym i’w gynnig
Rydym yn darparu sesiynau therapiwtig ar gyfer pob aelod o’r teulu ac yn cynnig sesiynau ar y cyd wedi’u hwyluso rhwng aelodau’r teulu, yn enwedig pan fo problemau sy’n achosi gwrthdaro yn eich perthnasoedd.
Mae ein sesiynau cyfrinachol yn eich helpu i:
- Prosesu beth sy’n digwydd i chi mewn lle diogel
- Nodi’r hyn sydd ei angen arnoch fel unigolion a myfyrio ar anghenion eich teulu cyfan
- Cael dealltwriaeth o’r hyn sy’n digwydd i aelodau eraill o’r teulu, a sut rydych chi’n effeithio ar eich gilydd
- Gwella cyfathrebu i’ch helpu i fynegi beth sy’n digwydd i chi yn ddiogel ac yn hyderus
- Eich helpu chi i weithio trwy faterion heriol gyda’ch gilydd heb waethygu gwrthdaro yn eich perthnasoedd
- Nodi atebion sy’n eich helpu i symud ymlaen yn unigol ac fel teulu
- Ymgysylltu â gwasanaethau arbenigol mewn iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg, yn ôl yr angen
Mae ymyraethau yn cael eu cyflwyno o bell gan ein hymarferwyr arbenigol, trwy Teams, Zoom neu WhatsApp, ac rydym yn annog hunan-atgyfeiriadau yn ogystal â’r rhai gan weithwyr proffesiynol.
Pwy sy’n gymwys?
Cysylltwch â ni os ydych chi, neu’r rhai rydych chi’n gweithio gyda nhw, yn bodloni’r meini prawf canlynol:
- Rydych chi’n Gyn-filwr / wedi gadael y Gwasanaeth neu’n aelod o deulu rhywun sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.
- Rydych chi a’ch teulu yn profi heriau gyda bywyd teuluol, perthnasoedd neu anawsterau iechyd meddwl.
- Mae gennych o leiaf un plentyn yn eich teulu – gallwch fyw gyda nhw neu ar wahân.
- Rydych chi neu’ch teulu yn byw yng Nghymru. (Ffoniwch ni os ydych chi’n byw y tu allan i Gymru gan y byddwn yn gallu helpu o hyd).
Edrychwn ymlaen at glywed gennych chi!
Cliciwch yma i weld/lawrlwytho ein Taflen Wybodaeth
Cyfeiriad Prosiect
Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd (SPARK), spark, Heol Maendy, Caerdydd, CF24 4HQ
Ffyrdd o gysylltu â ni
Ffoniwch ni ar 0300 1800 888
Neu cwblhewch ein Ffurflen Atgyfeirio ar-lein
Fel arall, gallwch lawrlwytho a llenwi ein Ffurflen Atgyfeirio Dogfen Word a’i hanfon drwy e-bost at: [email protected]
Beth mae pobl yn ei ddweud am ein gwasanaeth
-
"Roedden ni’n rhy brysur yn byw ein bywydau i ofyn am y cymorth yr oedd ei angen arnom, doedd gennym ni ddim yr egni i frwydro dros yr hyn yr oeddem ei angen."
-
"Gweithredodd fel llais ar fy rhan pan nad oeddwn i’n gallu cyfleu fy ymatebion mewn ffordd ddigyffro neu hawdd ei deall."
-
"Rydym wedi cael ein cefnogi gyda phroblemau ymddiriedaeth gyda gweithwyr proffesiynol eraill ac yn deall o ble mae hynny'n dod."
-
"Mwy o hyder mewn cysylltu â gwasanaethau eraill am gymorth."
-
"Wedi helpu gyda'r diffyg ymddiriedaeth mewn gwasanaethau statudol."
-
"Rwy'n credu ein bod ni wedi dod mor bell ers i ni ddechrau gyda TGP Cymru. Maen nhw’n ddidwyll, yn gymwynasgar ac maen nhw bob amser yn gwneud sesiynau mor gyfforddus a di-straen â phosibl."
-
"Rwy'n hynod ddiolchgar am bopeth y mae TGP wedi'i wneud i mi a byddwn yn eu hargymell yn fawr."
-
"Heb y gwasanaeth hwn byddem ni wedi bod yn y llys ac yn ymladd gyda'n gilydd a byddai bywyd wedi bod yn eithaf ofnadwy i bawb ond yn bennaf oll y plant."
-
"Gwasanaeth anhygoel sy'n darparu adnoddau a phroses unigryw o'r fath, heb hyn ni fyddwn yn hoffi meddwl beth fyddai wedi digwydd."
-
"Rydym yn gallu agor i fyny, trafod pethau a gweithio trwy sefyllfaoedd gyda'n gilydd."
-
"Nid ydym erioed wedi bod mor agored ac agos at ein gilydd."
-
"Rydw i a fy ngwraig yn siarad mwy nawr yn hytrach na dadlau am bethau. Rwyf wedi dechrau meddwl mwy am sut mae fy ngweithredoedd wedi effeithio ar fy ngwraig a fy mhlant."
-
"Rwy'n gallu aros yn ddigyffro heb golli fy nhymer a siarad mwy a deall eraill ac roedd gen i rywun yn gwrando arnaf."
-
"Dydyn ni ddim yn beio ein gilydd am ein hamgylchiadau nawr."
-
"Helpodd fi i ganolbwyntio a deall anghenion fy hun a fy nheulu yn well."
-
"Rydym yn gallu cyfathrebu'n effeithiol, rheoli ymddygiadau a theimlo fel uned deuluol."
-
"Rydyn ni'n agosach fel teulu a dydyn ni ddim bellach yn cael trafferth gyda'n perthnasoedd. Gallwn siarad yn rhydd, tawelu sefyllfaoedd heb wrthdaro a theimlo fel teulu."
-
"Mae wedi fy helpu i weld fy ngwerth a hefyd fy helpu i fondio gyda fy nheulu yn well."
-
"Mae wedi ein helpu i gael mynediad at wasanaethau yr oedd eu hangen arnom a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar ein teulu ac yn gwneud gwahaniaeth enfawr."
-
"Mae wedi bod yn lle diogel iawn i mi ddweud sut rydw i'n teimlo a sut mae'n effeithio ar fy mywyd. Mae hyd yn oed sesiynau ar y cyd gyda fy ngwraig wedi bod mor dda, rydyn ni'n trafod pethau sy'n mynd o'i le mewn amgylchedd nad yw'n achosi'r ddadl arferol."