Dulliau Adferol Gwasanaeth Cyn-filwyr a Theuluoedd
Jun 3, 2020
Roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n cynnig rhywfaint o gyngor defnyddiol a allai fod o gymorth i rai wrth i ni ymgysylltu â theuluoedd a phobl ifanc gan ddefnyddio galwadau fideo (llawer mwy ar gael ond dyma rywfaint i chi ☺):
Gall fod o gymorth anfon adnoddau/deunyddiau cyn sesiwn galwad fideo (drwy’r post neu’n electronig) fel bod gan y rhai sy’n cymryd rhan rywbeth i gyfeirio ato i gadw trefn ar y sesiwn.
Cadwch ffiniau. Rydym ni’n gweithio o gartref, wrth gwrs, ond cadwch eich cartref yn breifat cyn belled â phosibl (er enghraifft, meddyliwch ddwywaith am luniau yn y cefndir a lle’r ydych chi’n eistedd ac ati, pethau efallai na fyddech chi’n meddwl ddwywaith amdanyn nhw os ydych chi ar alwad gyda chydweithiwr er enghraifft).
Byddwch yn garedig i chi’ch hun a chofiwch fod pawb yn mynd drwy’r ffordd newydd hon o weithio ar yr un pryd, felly rhowch gynnig ar bethau a byddwch yn agored gyda’r rhai yr ydych chi’n gweithio â nhw. A chadwch eich hyder – fe allwch chi wneud hyn!!
Rydych chi’n gwybod beth yw’r agweddau sylfaenol ar ymgysylltu a chymryd rhan ac mae’r rhan yn dal i fod yn berthnasol, felly iawn, dydyn ni ddim yn yr un ystafell, ond rydym ni yn yr un ‘rhith-ofod’ felly gofynnwch am adborth o’r sesiynau, a darganfyddwch gyda’ch gilydd y ffordd orau o gael y mwyaf o’r sesiynau a sut i symud ymlaen.
Mae meddwl yn adferol yn ein helpu i sylweddoli y gall cyfleoedd newydd ddatblygu (yn annisgwyl!) mewn cyfnodau anodd, felly eto, daliwch ati, fe allwn ni wneud hyn!!
Codwch eich calon, gallwn ni ond gwneud yr hyn a allwn ni a dim mwy ac er efallai na fydd rhai pobl ifanc a theuluoedd yn teimlo y gallan nhw ymgysylltu yn y modd hwn, efallai y bydd eraill yn teimlo’n fwy parod i fanteisio ar ein hymyriadau o bell yn fwy cyfforddus erbyn hyn.
Ac yn bwysicaf oll, cofiwch wisgo amdanoch ar gyfer eich galwad fideo (rhag ofn i chi sefyll ar eich traed yn dal i wisgo trowsus eich pyjamas….) a chofiwch gau’r sesiwn yn llwyr ….. fel nad oes unrhyw berygl o weld fideos sy’n achosi embaras i chi yn ymddangos ar YouTube
TGP Cymru
Cardiff University Social Science Research Park (SPARK)
sbarc
Heol Maindy
Caerdydd
CF24 4HQ
TGP Cymru yw enw gwaith Tros Gynnal Plant.
Rhif Elusen Gofrestredig 1099878 Wedi cofrestru fel cwmni cyfyngedig drwy warant rhif 04422485 (Cymru a Lloegr).
Swyddfa Gofrestredig: Cardiff University Social Science Research Park (SPARK), sbarc, Heol Maindy, Caerdydd, CF24 4HQ – 02920396974 Dyluniwyd gan UGD
Rydym yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau ar ein gwefan. Os ydych yn parhau i ddefnyddio'r safle hwn byddwn yn tybio eich bod yn hapus gyda hyn. Am fwy o wybodaeth, gweler ein Polisi Cwcis.