Rheolwr Tîm o Amgylch y Denantiaeth yn Codi Arian drwy Blymio o’r Awyr

Sep 14, 2023

Dewisodd Tracey, Rheolwr y Tîm o Amgylch y Denantiaeth, ffordd anghonfensiynol o godi arian ar gyfer ei thîm, drwy blymio 13,000 troedfedd o’r awyr!

Ar ôl gorfod gohirio dwywaith, cafodd Tracey ei chyfle o’r diwedd i blymio o’r awyr i elusen. ‘Roedd plymio o’r awyr yn gwbl wallgof ac fe wnes i fwynhau bob eiliad’ dywedodd am y profiad.

Diolch i dîm Arddangos Parasiwt y Fyddin y Red Devils am wneud i hyn ddigwydd, a diolch i Tracey am godi’r arian.

Fideo: