Teuluoedd Pen-y-bont ar Ogwr yn canmol Tîm Cyfarfod Grŵp Teuluol

Apr 21, 2022

Mae tîm Cyfarfod Grŵp Teuluol y Dulliau Adferol wedi cael adborth cadarnhaol gan deuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr am eu cymorth rhagorol. Dyma rai o’r dyfyniadau gorau o’u harolwg diweddar:

“Gwasanaeth rhagorol i’w ddefnyddio. Mae ein teulu wedi elwa o well cyfathrebu o fewn ein teulu.  Cyfathrebu rhagorol rhwng y cydgysylltydd Cyfarfod Grŵp Teuluol a holl aelodau’r teulu. Mae nodyn i’ch atgoffa o fanylion cyfarfodydd grwpiau teuluol yn cael eu hanfon drwy neges destun ac mae cyfle i gyfrannu drwy e-bost pan nad ydych yn gallu bod yno eich hun.” – Modryb

“Roedd y Cyfarfod Grŵp Teuluol yn llawn gwybodaeth i helpu’r awdurdod lleol i sefydlu cynllun diogelwch ar gyfer y plant.” – Gweithiwr cymdeithasol

“Hawdd iawn ac yn ddigonol. Wedi rhoi cyfle i bawb ddweud eu dweud mewn lle diogel gyda chymorth wrth law. Llawer o fewnbwn gan y Cydgysylltydd Cyfarfod Grŵp Teuluol i sicrhau ein bod yn deall y broses a’r hyn a ddisgwylir yn y Cyfarfod Grŵp Teuluol. Fe wnaeth helpu’r teulu yn fawr, a rhoddodd gynllun hawdd ei ddilyn a rhai ffiniau i ni. Rwy’n bendant yn ei argymell i deuluoedd eraill.” – Gweithiwr cymdeithasol

“Pan awgrymodd y gweithiwr cymdeithasol y Cyfarfod Grŵp Teuluol doedden ni ddim yn siŵr iawn pa ddefnydd fyddai o, ond ar ôl 10 munud gyda’n gilydd roedden ni mewn dagrau ac roedd yn fuddiol iawn, bron fel sesiwn therapi i ni. Roeddem ni wedi rhoi popeth i mewn iddo a gwnaethom ni i gyd ffonio ein gilydd ar ôl y cyfarfod grŵp teuluol. Mae wedi dod â ni’n agosach ac mae’r cyfathrebu’n well. Mae dod â phawb at ei gilydd, yn rhithiol mewn ystafell edi bod o fudd mawr i’r teulu.” – Modryb