Dulliau Adferol Gwasanaeth Cyn-filwyr a Theuluoedd

Sut allwn ni helpu?

Mae ein gwasanaeth, a ariennir gan yr Armed Forces Covenant Trust Fund a Veterans’ Foundation, yn rhoi cymorth i Gyn-filwyr a’u teuluoedd sy’n gofyn am gymorth i ymdopi ag anawsterau o fewn perthnasoedd teuluol. 

Yr hyn yr ydym ni’n ei wneud

Rydym ni’n cyflwyno rhaglen o weithdai grŵp y gall Cyn-filwyr a’u teuluoedd ddod iddynt gyda theuluoedd eraill. Cynhelir gweithdai grŵp yn rheolaidd, felly cysylltwch â ni os hoffech wybod dyddiadau ein rhaglen nesaf!

Yn ogystal â’r gweithdai grŵp, cynigir sesiynau teulu unigol wedi’u hwyluso i Gyn-filwyr a’u teuluoedd gyda’r nod o’u cynorthwyo i:

  • Nodi eu cryfderau a chyfathrebu mewn ffordd sy’n nodi eu hanghenion 
  • Archwilio a dod o hyd i atebion ar y cyd er mwyn gallu diwallu a helpu pawb sydd wedi’u heffeithio i symud ymlaen
  • Rheoli gwrthdaro’n fwy effeithiol (gall yn aml arwain at chwalu teuluoedd os na fydd yn cael ei ddatrys)
  • Cael gafael ar wasanaethau arbenigol pan fo angen

Mae ein gwasanaeth mewn sefyllfa unigryw gan ein bod yn gweithio ochr yn ochr â gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar gyn-filwyr a gwasanaethau cyffredinol/an-filwrol (gan gynnwys statudol a gwirfoddol).

Ar hyn o bryd, mae’r holl ddarpariaeth yn cael ei hwyluso drwy sesiynau ar-lein byw o bell drwy Zoom neu Teams ac ati, ac rydym yn annog hunan-atgyfeiriadau gan Gyn-filwyr ac aelodau o’u teulu, yn ogystal â chan weithwyr proffesiynol.

Cysylltwch â ni os gallwch ateb ‘Ydw’ i unrhyw un o’r canlynol:

  • Rydych yn Gyn-filwr neu’n Ymadawr Gwasanaeth (nid oes cyfyngiad terfyn amser o ran pryd y gwnaethoch adael y gwasanaeth).
  • Rydych yn credu eich bod yn cael anawsterau mewn perthnasoedd teuluol sy’n achosi problemau i chi a/neu unrhyw un yn eich teulu.
  • Mae o leiaf un plentyn sy’n aelod o’ch teulu – p’un a ydych yn byw gyda’r plentyn neu os ydych chi wedi gwahanu.

Edrychwn ymlaen at glywed gennych!

Lawrlwythwch ein Taflen Wybodaeth >


Cyfeiriad Prosiect

Cardiff University Social Science Research Park (SPARK), sbarc, Heol Maindy, Caerdydd, CF24 4HQ

Ffyrdd o gysylltu â ni

Rhif Ffôn: 07951 096208 E-bost: ravfs@tgpcymru.org.uk

Pwy sydd yn ein tîm

Tina Foster
Rheolwr Tîm