Amser Holi Sêr Diogel yn erbyn y Gweithwyr Proffesiynol #TGPQT Wythnos 6

Jun 26, 2020

Mae Bwrdd Diogelu Iau Ceredigion, y Sêr Diogel, yn parhau i ofyn cwestiynau i nifer o weithwyr proffesiynol, o amrywiaeth o sectorau sydd â’u rôl i ddiogelu plant a phobl ifanc ledled Cymru. 

Wythnos yma cyfarfu’r Sêr Diogel ar Zoom â Guy Evans, Cyfarwyddwr Gweithredol Cymdeithas Gofal Ceredigion. Mae’r Gymdeithas Gofal yn darparu gwasanaeth amhrisiadwy i bobl sy’n agored i niwed ledled Canolbarth Cymru, mae hyn yn cynnwys nifer o gynlluniau ar gyfer pobl ifanc, gan eu cefnogi gyda thai, digartrefedd a materion eraill. Hoffem ddweud diolch yn fawr i Guy a thîm Cymdeithas Gofal Ceredigion am helpu i gadw pobl ifanc yn ddiogel ledled y sir. Diolch hefyd i Guy am ymgymryd â’r Her ‘Amser Holi’ yn ystod y cyfnod cloi ☺

Guy yw’r chweched gweithiwr proffesiynol i ymgymryd â Her Sêr Diogel #TGPQT ac yn cynrychioli’r sector dai. Roedd y Sêr Diogel yn credu fod atebion Guy yn wych a gobeithiwn y byddwch chithau hefyd yn eu mwynhau ☺Beth am gymryd golwg ar ei Her ‘Amser Holi’ a rhoi cynnig arni eich hun, mae’n hwyl!

Daliwch i wylio’r gofod hwn am y gweithiwr proffesiynol nesaf i ymgymryd â’r her ☺

Bwrdd Diogelu Iau Ceredigion