Digwyddiad Meic ‘Agored’ Ar-lein Bwrdd Diogelu Iau Ceredigion

Apr 24, 2020

Cynhaliodd Bwrdd Diogelu Iau Ceredigion (Sêr Diogel) ddigwyddiad ‘Meic Agored’ ar-lein ar gyfer plant a phobl ifanc ar 9 Ebrill.  Cynhaliwyd y digwyddiad i annog plant a phobl ifanc i fynegi eu hunain a hefyd i godi ymwybyddiaeth o’u cadw’n ddiogel ar-lein.

Mynychodd pobl Ifanc, eu teuluoedd a’u gweithwyr proffesiynol y digwyddiad a gynhaliwyd dros Zoom. Cyflwynodd Brian Evans (Pennaeth, Ysgol Gynradd Llwyn Yr Eos, Aberystwyth) ystod eang o actau, cerdd am ddiogelu, ‘Lip-Sync’ o gân dathlu a set DJ gan ein DJ Preswyl, Theo. Roedd cyfle hefyd i chwarae’r Rap ‘SAFE’ a gafodd ei greu a’i gynhyrchu gan y grŵp Sêr Diogel yn ôl yn 2018. Roedd yr actau talentog yn cynnwys unawdau piano, gitâr a drwm, dawns, canu, bîtbocsio a hyd yn oed tric hud! Roedd yn ddigwyddiad anhygoel ac roedd yr holl blant a phobl ifanc a gymerodd ran yn hollol wych!!!

Mynychodd Prif Weithredwr TGP Cymru, Jackie Murphy, a dywedodd ychydig eiriau i gloi trafodion y prynhawn. Daeth y digwyddiad ar-lein i ben gyda phawb yn canu a dawnsio gyda’i gilydd gan ddod â gwên fawr angenrheidiol i’w holl wynebau ☺

Hoffai’r grŵp Sêr Diogel ddiolch i dîm Gorllewin a Chanolbarth TGP Cymru am eu holl gefnogaeth a phawb arall a fynychodd i wneud y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol. Allwn ni ddim disgwyl tan yr un nesaf ☺

Diolch yn fawr 

Bwrdd Diogelu Iau Ceredigion


Plant, pobl ifanc, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol yn ymuno am brynhawn o adloniant yn nigwyddiad ‘Meic Agored’ Ar-lein gan Sêr Diogel!

Archie yn chwarae ei ddrwm (chwith), y gerdd am ddiogelu a grëwyd ac a ddarllenwyd gan Mark Jefferis o eiriau’r grŵp Sêr Diogel (dde).

Dawns fynegiadol Hopi (chwith) a Brian Evans yn cyflwyno actau o Orsaf Ofod Rhyngwladol NASA, un o’r nifer o leoliadau rhithwir y bu’n cyflwyno o (dde).

Harry yn chwarae ei gitâr (chwith) a Jackie Murphy yn cau’r digwyddiad (dde).

Ar ddiwedd y sioe, mae DJ Preswyl, Theo yn cael pawb i ganu a dawnsio ☺