TGP Cymru yn Ehangu Gwasanaeth gyda Chymorth gan AlphaBioLabs

Jun 15, 2022

Ers cael rhodd hael gan AlphaBioLabs, mae TGP Cymru wedi gallu ehangu ei Gwasanaeth Eiriolaeth i Rieni, gyda’r  nod o gyrraedd a chefnogi mwy o deuluoedd ledled Cymru.

Eiriolaeth i Rieni yw’r broses o roi gwybod i rieni a gofalwyr am eu hawliau, a rhoi cyfle iddynt fynegi eu barn, eu dymuniadau a’u teimladau ynghylch eu sefyllfa, a gofyn cwestiynau mewn amgylchedd agored ac onest. Nod eiriolwr i rieni yw cefnogi rhieni drwy broses a all fod yn anodd iawn ar gyfnod o’u bywydau pan fydd pwysau mawr arnyn nhw.

Mae rhieni sydd wedi defnyddio ein gwasanaeth yn dweud wrthym eu bod yn teimlo’n fwy o ran o benderfyniadau am eu plant ac yn deall prosesau amddiffyn plant cymhleth yn well. Maen nhw hefyd yn teimlo yn fwy hyderus a bod gweithwyr proffesiynol yn gwrando arnyn nhw’n well. Dangosir hyn yn yr adborth y mae’r Tîm Eiriolaeth i Rieni yn ei gael yn rheolaidd, â sylwadau fel “Roeddwn i’n teimlo yn anghysurus iawn cyn i chi ddod” ac “Roeddwn i’n teimlo eu bod wedi gwrando yn fwy pan oeddech chi gyda fi” sy’n dangos y gwahaniaeth mawr y gall y gwasanaeth ei gael ar fywydau rhieni.

Mae’r tîm yn gweithredu mewn dau leoliad ar hyn o bryd ac mae llawer mwy yn dod yn fuan. Ar ôl cynllun treialu llwyddiannus a ddaeth i ben ym mis Ionawr 2022, lansiodd y tîm eu gwasanaeth ym Merthyr. Mae cynllun treialu ar waith yn Ynys Môn ar hyn o bryd gyda’r nod o gefnogi rhieni â phlant yn y maes Amddiffyn Plant neu dan ofal awdurdod lleol. Bwriedir lansio dau gynllun treialu arall yn y flwyddyn nesaf, yn Rhondda Cynon Taf a Sir Benfro. Bydd y twf mwyaf yn y gwaith yn cynnwys ymestyn cymorth y tîm Eiriolaeth i Rieni i gefnogi rhieni o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig y mae eu plentyn/plant yn derbyn cymorth gan wasanaethau lleol. Bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei gynnal ledled Cymru gyfan.

Ni fyddai ehangu’r gwasanaeth yn ddiweddar i gefnogi mwy o deuluoedd yn bosibl heb gymorth partneriaid fel AlphaBioLabs. Mae TGP Cymru yn hynod o ddiolchgar am eu cyfraniadau dros y blynyddoedd a’r ffaith eu bod yn dal i gefnogi ein gwasanaethau.