Nododd mis Awst ddechrau ein 20fed pen-blwydd ac ar ôl 20 mlynedd o waith anhygoel, mae gennym ddigon i’w ddathlu. Penderfynodd llawer o aelodau ein timau fynd i ddigwyddiadau a rhannu’r newyddion am ein pen-blwydd.
2 Awst
Dechreuodd y dathliadau lle ddechreuodd y sefydliad yn gyntaf. Yn 2002 yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhyddewi, lansiwyd TGP Cymru gan y Gweinidog Plant bryd hynny, Jane Hutt. Dau ddegawd yn ddiweddarach, yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2022 yn Nhregaron, torrodd Jane Hutt ein teisen ben-blwydd yn 20 oed, gan nodi dechrau ein dathliadau.
8 Awst
I ddathlu ein 20fed pen-blwydd, cafodd tîm y Gogledd ddiwrnod i ffwrdd o’r swyddfa ac aethom ni i daflu bwyelli!
10 Awst
Aeth tîm y Gorllewin a’r Canolbarth i’r digwyddiad Diwrnod Chwarae RAY yn Aberaeron. Ar ei stondin roedd cerddoriaeth fyw gan un o Sêr Saff Ceredigion Theo, gweithdy drymio, beic smwthis a chaban lluniau. Roedd llawer yn digwydd ac roedd llawer o hwyl!
19 Awst
Darparodd y stondin yn y digwyddiad Mae Teuluoedd yn Caru Casnewydd ddeunyddiau addysgol ynglŷn â’r sefydliad, gorsaf baentio i bobl ifanc, a theisen pen-blwydd yn 20 oed. Maer Casnewydd y Cynghorydd Martyn Kellaway dorrodd y deisen yn gyntaf.
Taith Becky
Drwy gydol y mis roedd Becky, ein heiriolwr gwadd ar gyfer y Gogledd yn gwneud ei thaith arferol: Ymweld â 12 o gartrefi, cynnig cymorth eiriolaeth i 47 o blant a phobl ifanc, gyrru 270 o filltiroedd. Fodd bynnag, i ddathlu ein 20fed pen-blwydd, rhannodd Becky losin a theisen â’r bobl ifanc a’r staff y buodd yn ymweld â nhw.
Bu’n fis cyntaf prysur iawn, a bu llawer o hwyl yn dathlu 20 mlynedd o wneud gwahaniaeth!